Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1, Senedd
a fideogynhadledd ar Zoom
Dyddiad: Dydd Mercher, 16 Tachwedd 2022
Amser:
09.30 -
09.56
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Peredur Owen Griffiths AS (Cadeirydd) Peter Fox AS Mike Hedges AS Rhianon Passmore AS |
Staff y Pwyllgor: |
Owain Roberts (Clerc) Leanne Hatcher (Ail Glerc) Georgina Owen (Ail Glerc) Mike Lewis (Dirprwy Glerc) Owen Holzinger (Ymchwilydd) |
Yn ei gyfarfod ar 9 Tachwedd, cytunodd y Pwyllgor ar gynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i wahardd y cyhoedd o gyfarfod heddiw.
Cofrestru (09.15-09.30)
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod y Pwyllgor Cyllid.
2 Craffu Blynyddol ar Waith Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru: Trafod yr adroddiad drafft
2.1 Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft a chytunwyd arno gyda mân newidiadau.
3 Gwaith craffu blynyddol ar Swyddfa Archwilio Cymru ac Archwilydd Cyffredinol Cymru: Trafod yr adroddiad drafft
3.1 Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft a chytunwyd arno gyda mân newidiadau.